Mae ymddiriedolwyr SEAS yn falch o gyhoeddi y bydd ‘Sesiwn Gloriannu’r Tymor SEAS 2023’ yn cael ei chynnal yng Nghlwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn ym Miwmares, ddydd Sadwrn 18 Tachwedd gan ddechrau am 10.30am. Mae SEAS yn hynod o ddiolchgar i’r Llywydd, Is-lywydd a Phwyllgor RAYC am fod mor hael ac ein croesawu, a gobeithiwn y bydd holl gyfranogwyr a gwirfoddolwyr SEAS yn mynychu.
Bydd SEAS yn darparu lluniaeth a chinio bwffe llawn i bawb sy’n mynychu, a bydd y bar ar agor amser cinio. Mae ymddiriedolwyr SEAS eisiau clywed gennych, cyfranogwyr a gwirfoddolwyr, beth wnaethon ni’n dda, beth na wnaethom cystal, a sut yr hoffech i ni weithredu yn 2024. Byddwn yn dweud wrthych beth sy’n newydd ac yn gyffrous o ran SEAS.
Rydym ni, a chi’n gwybod fod SEAS yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae SEAS yno i chi- dewch draw ar 18 Tachwedd, lleisio eich barn a helpu i hyrwyddo SEAS.
Comments