top of page

Mae James Edwards a Stephen Eaton, dau o gyfranogwyr SEAS wedi cael Gwobrau Paddle Start Canŵio Pryd



Mae James Edwards a Stephen Eaton, dau o gyfranogwyr SEAS wedi cael Gwobrau Paddle Start Canŵio Prydeinig am eu medrusrwydd ar y dŵr. Dywedodd, Karl Midlane, Swyddog Hyfforddiant SEAS: “Mae James a Stephen wedi gweithio’n galed i hyfforddi ac ymarfer. Mae eu gwobrau yn cydnabod eu gwaith caled a’r safonau maent wedi’u cyflawni yn eu camp.” Dywedodd Jon Gammon, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SEAS, “Mae pawb yn SEAS yn wirioneddol falch o James a Stephen. Mae eu hyfforddiant wedi rhoi’r hyder a’r gallu iddynt gael eu gwobrau sy’n cydnabod eu datblygiad a’u cyflawniad”. Dywedodd Virginia Crosby, AS Ynys Môn, “Llongyfarchiadau mawr i James a Stephen am ennill y gwobrau hyn. Rwy’n gefnogwr brwd o SEAS, a phopeth a wna i unigolion sydd ag anabledd ar yr ynys”.


Stephen Eaton


Ariennir SEAS gan grantiau a rhoddion i’n galluogi ni i gynorthwyo pobl anabl, eu teuluoedd a’u gofalwyr i gyflawni mwy- gyda’n gilydd. Mae tad James, Mark a thad Stephen, Phil yn wirfoddolwyr gyda SEAS, ac maent wedi gwylio James a Phil yn datblygu gyda’r hyfforddiant y mae SEAS wedi’i ddarparu. Maent yn fach iawn o’r hyn y mae eu meibion wedi’i gyflawni.


James Edwards

bottom of page