top of page

Datganiad i'r wasg

​

Cyhoeddiad Uno: SEAS Sailability ac All Afloat yn Uno i Ehangu Cyfleoedd Hwylio a Chwaraeon Dŵr Cynhwysol

Cymru – Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod SEAS Sailability ac All Afloat wedi uno elusennau i ffurfio un sefydliad unedig sy'n ymroddedig i ehangu cyfleoedd hwylio cynhwysol a chyfleoedd awyr agored anturus ledled Cymru.

​

Bydd yr elusen newydd yn cael ei henwi'n 'SEAS All Afloat'.

​

Mae'r uniad hwn yn dwyn ynghyd ddau sefydliad sefydledig a pharchus, pob un ag ymrwymiad profedig i wneud hwylio a'r awyr agored yn hygyrch i unigolion o bob oed a gallu.

​

Drwy gyfuno eu hadnoddau, eu harbenigedd a'u timau angerddol, bydd y sefydliad newydd mewn gwell sefyllfa i ehangu faint o bobl mae’n ei gyrraedd, gwella ei wasanaethau a chefnogi ystod ehangach o gyfranogwyr. Y nod yw sicrhau y bydd pawb yn mwynhau hwylio a'r awyr agored, waeth beth fo'u heriau corfforol, meddyliol neu gymdeithasol.

​

“Rydym wrth ein bodd yn cyfuno ein hymdrechion a chynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ag anableddau a rhwystrau eraill rhag cymryd rhan,” meddai Phil Tilley, Ymddiriedolwr All Afloat. “Mae’r uno hwn yn caniatáu inni adeiladu ar gryfderau’r ddau sefydliad, gan greu endid cryfach a mwy effeithiol a fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i hyd yn oed mwy o fywydau.”

​

Ychwanegodd Richard Horovitz, Cadeirydd Ymddiriedolwyr SEAS Sailability, “Rydym yn gwybod bod yr hyn y mae ein helusennau’n ei wneud yn newid bywydau er gwell. Gyda’n gilydd, gallwn gynnig hyd yn oed mwy o adnoddau a gweithgareddau sy’n caniatáu i fwy o bobl sydd wedi’u hymylu brofi llawenydd a rhyddid bod ar y dŵr a’r hyder y mae hynny’n ei greu. Mae’r hyder hwnnw’n cael ei drosglwyddo i’w bywyd bob dydd ac yn eu grymuso i gyflawni mwy. Mae’n gweithio”.

​

Prif Uchafbwyntiau'r Uno:

​

Cyrraedd mwy o Unigolion: Bydd yr uno yn caniatáu i'r sefydliad newydd wasanaethu hyd yn oed mwy o gymunedau ac ehangu mynediad at hwylio i bobl sydd ag anableddau a grwpiau eraill sydd heb wasanaeth digonol ledled Cymru.

​

Gwell Rhaglenni a Gwasanaethau: Bydd ystod ehangach o raglenni hwylio a gweithgareddau awyr agored cynhwysol yn cael eu datblygu, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i unigolion o bob gallu gymryd rhan.

 

Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Cryfach: Bydd cyfuno cryfderau sylfaen gwirfoddolwyr y ddau sefydliad yn creu system gymorth fwy cadarn a mwy ymroddedig i gyfranogwyr a'r sefydliad cyfan.

 

Buddsoddi mewn Seilwaith ac Offer: Mae'r uno yn galluogi'r sefydliad i fuddsoddi mewn cychod newydd, cyfleusterau ac offer hygyrch, gan sicrhau y gall pob cyfranogwr fwynhau profiad diogel a chyfoethog ar y dŵr.

 

Fel rhan o'r uno, bydd yr holl raglenni, gwasanaethau a chyfleoedd gwirfoddoli presennol yn parhau heb ymyrraeth. Yn y misoedd nesaf, bydd manylion ychwanegol ynghylch digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau newydd sydd i ddod yn cael eu rhannu gyda'r cyhoedd.

 

YnglÅ·n â SEAS Sailability:
Wedi'i sefydlu yn 2017, mae SEAS Sailability wedi ymrwymo i wneud chwaraeon dŵr yn hygyrch i bawb. Gyda chefnogaeth grantiau gan y Loteri Genedlaethol, darparodd SEAS Sailability brofiadau hwylio a dŵr hygyrch i bobl anabl sydd ag anableddau corfforol neu anghenion dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a chefnogwyr. Wedi'u hyfforddi gan wirfoddolwyr SEAS, mae llawer wedi ennill Cymwysterau NGB mewn cychod modur, caiacio, canŵio a phadlfyrddio sydd wedi caniatáu iddynt drawsnewid o 'gyfranogwr' i wirfoddolwr, gan helpu eraill i fwynhau amser ar y dŵr.

Mae SEAS Sailability wedi ennill arbenigedd a gydnabyddir yn genedlaethol ym maes darparu gweithgareddau dŵr i bobl anabl ac wedi creu amgylchedd cefnogol a chynhwysol sy'n canolbwyntio ar rymuso pobl anabl, eu teuluoedd a'u gofalwyr i ddarganfod rhyddid a chyffro hwylio a gweithgareddau dŵr eraill, gan drosglwyddo’r hyder yn ôl i'w bywydau.

 

YnglÅ·n ag All Afloat:
Mae All Afloat wedi bod yn sefydliad blaenllaw o ran darparu cyfleoedd hwylio a chychod cynhwysol, gan greu llwybrau i bobl ifanc ledled Cymru brofi llawenydd hwylio a chwaraeon dŵr , waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu. Ers ei sefydlu yn 2017, trwy ei raglenni arloesol, mae All Afloat wedi gweithio i chwalu'r rhwystrau o ran chwaraeon dŵr a chynyddu mynediad at hwylio a chychod i bobl ifanc dan anfantais a phobl ifanc ag anableddau ledled Cymru.

Ers ei sefydlu mae'r elusen wedi cefnogi deg Canolfan Hyfforddi RYA ledled gogledd, gorllewin a de Cymru, gan ddarparu prosiectau gwerth dros £150,000. Mae'r mentrau hyn wedi darparu dros 4,500 o sesiynau i fwy na 3,500 o gyfranogwyr ifanc, gan agor llwybrau clir i ardystiad RYA, Cyflwyniad i Hwylio, Cam 1 a 2, ac ardystiadau Hyfforddwr Dinghy.

​

​

Yr Ymddiriedolwyr

CW Impact Awards for SEAS founders Richard Horovitz  Jon Gamon_edited.jpg

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch

Richard Horovitz,

Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

e-bost: chair@seasallafloat.org.uk

Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad uno uchod a datganiad byrrach yn y Gymraeg neu'r Saesneg isod.

bottom of page